1-2 Dduw y Lluoedd, dy breswylfod,O mor brydferth yw!Rwy’n hiraethu hyd at ddarfodAm gynteddau Duw.Y mae’r cwbl ohonof fiYn gweiddi am yr Arglwydd byw.
3-4 Adar to, a’r wennol dirionA gânt yno nyth;Wrth d’allorau magant gywion.Gwyn eu byd am bythBawb sy’n trigo yn dy dŷ,Yn canu mawl i ti’n ddi-lyth.
5-7 Gwyn eu byd y pererinion;Cedwi hwy rhag braw.Fe gânt ddyffryn Baca’n ffynnonDan y cynnar law.Ânt o nerth i nerth, nes dodI wyddfod Duw yn Seion draw.
8-10a Arglwydd Dduw y Lluoedd, gwrandoAr fy ngweddi i.Edrych ar ein tarian; dyroFfafr i’n brenin ni.Gwell na blwyddyn gartref fyddUn dydd yn dy gynteddau di.
10b-12 Gwell yw sefyll y tu allanYno na chael bywYn nhai’r drwg; cans haul a tharianYw yr Arglwydd Dduw.Gwyn ei fyd y sawl y boEi hyder ynddo; dedwydd yw.