1-9 Diolchwch oll i Dduw,Cans da yw Duw y duwiau.Arglwydd arglwyddi yw;Mae’n gwneud mawr ryfeddodau:Y byd a’r wybren dlos,Yr haul liw dydd, a’r lleuadA’r sêr yn olau i’r nos,Cans byth fe bery ei gariad.
10-15 Fe drawodd blant yr Aifft,A daeth ag Israel allan.Ag estynedig fraichA nerth ei law ei hunan,Fe’n dygodd trwy’r Môr Coch,Ond taflu’r Pharo anfadA’i lu i’r dyfroedd croch,Cans byth fe bery ei gariad.
16-26 Fe’n dug trwy’r anial hir,A lladd brenhinoedd cryfion,A rhoi i ni eu tirYn etifeddiaeth dirion.Gwaredodd ni, ac efSy’n bwydo pawb drwy’r cread.Diolchwch i Dduw’r nef,Cans byth fe bery ei gariad.