1-2 Dyweded Israel: Oddi arFy mebyd lawer gwaithYmosodasant arnaf fi,Ond heb fy nhrechu chwaith.
3-4 Fe arddwyd cwysau ar fy nghefnGan lach eu ffrewyll gref,Ond torrodd Duw eu rhaffau hwy,Cans cyfiawn ydyw ef.
5-6 O boed i bawb a roes eu casAr Israel gilio o’r tir,Fel glaswellt gwael ar doeau taiSy’n grin cyn tyfu’n ir.
7-8 Ni fedir hwn na’i rwymo byth.Ni ddywed undyn bywAm gnwd fel hwn, “Bendithiwn chwiYn enw’r Arglwydd Dduw”.