1-4a O Arglwydd, gwaeddaf, brysia ataf fi;Gwrando fy llef pan alwaf arnat ti.Bydded fy ngweddi’n arogldarth o’th flaen,Ac offrwm hwyrol fo fy nwylo ar daen.Dros ddrws fy ngenau, Arglwydd, gwylia di;Rhag pob gweithredoedd drwg, O cadw fi.
4b-5 Mae rhai sy’n gwneud drygioni fwy a mwy;Na ad im fwyta o’u danteithion hwy.Cerydded y rhai cyfiawn fi heb sen,Ond nad eneinied olew’r drwg fy mhen;Oherwydd mae fy ngweddi i o hydYn llef yn erbyn holl ddrygioni’r byd.
6-8a Pan fwrir oddi ar graig eu barnwyr oll,Cânt wybod imi draethu’r gwir di-goll.Yng ngheg Sheol y bydd eu hesgyrn gwyw,Fel darnau pren neu graig; ond mi, O Dduw,A drof fy llygaid beunydd atat ti,Ac ynot, Arglwydd, y llochesaf fi.
8b-10 Na ad fi heb amddiffyn; cadw fiRhag y peryglon sydd i’m maglu i,Rhag gafael pob rhyw rwyd neu fagl a ryddGwneuthurwyr drwg ar hyd fy ffordd yn gudd.Boed i’r drygionus syrthio i’w rhwydau’u hun,A minnau yn mynd heibio i bob un.