1-3 Moliant sy’n ddyledus iti,Dduw yn Seion, ac i ti,Sydd yn gwrando gweddi, y telirYr adduned. Deuwn niAtat i gyffesu’n pechodLlethol, a maddeui di.
4 Gwyn ei fyd bawb a ddewisiAc a ddygi’n agos iawnIddo fyw yn dy gynteddau.O digoner ninnau’n llawnYn dy dŷ, dy deml sanctaidd,Â’th ddaioni ac â’th ddawn.
5 Mewn gweithredoedd tra ofnadwyYr atebi di i ni.Ti yw Duw ein hiachawdwriaeth.Daear gron a’i chyrion hiA phellafoedd eitha’r moroeddSy’n ymddiried ynot ti.
6-7 Fe osodi di’r mynyddoeddYn eu lle â nerth dy law.Yr wyt wedi dy wregysuGyda chryfder. Rhoddi dawAr ru’r moroedd, terfysg pobloedd,Ac fe bair d’arwyddion fraw.
8-9a Gwnaethost ti i holl drigolionByd yn gyfan lawenhau.Fe ymwelaist ti â’r ddaear,A’i ffrwythloni a’i dyfrhau.Mae dy afon yn llawn dyfroedd;Rhoddaist ŷd i ni’i fwynhau.
9b-11a Rwyt yn trefnu ar gyfer daear:Gwastatáu ei chefnau hir,Dyfrhau’i rhychau; yna’i mwydo’nDyner â chawodydd ir.Yna, i goroni’r flwyddyn,Fe fendithi gnwd y tir.
11b-13 Mae dy lwybrau di’n diferuBraster dros borfeydd y byd.Gwisgi’r bryniau â llawenydd,A’r dyffrynnoedd gydag ŷd.Cuddi’r dolydd oll â defaid.Canu y mae y bobl i gyd.