1-4a O Dduw, cadw fi, cans llochesafYn dawel am byth ynot ti.Ti ydyw fy Arglwydd, a hebotNid oes dim daioni i mi.Boed melltith ar bawb sy’n gwirioniAr dduwiau paganaidd y wlad;Dim ond amlhau ei ofidiauY mae’r un a’u blysia mewn brad.
4b-7a Ni roddaf waed-offrwm i’r rheini,Na’u galw am help pan wyf wan.Ti, Arglwydd, yw ’nghyfran a’m cwpan;Ti sy’n diogelu fy rhan.Fe syrthiodd i mi y llinynnauMewn mannau dymunol drwy f’oes.Mae im etifeddiaeth ragorol;Bendithiaf yr Arglwydd a’i rhoes.
7b-11 Y mae fy meddyliau’n fy nysgu.Yr Arglwydd yw nerth fy llaw dde.Fe’i dodais o’m blaen i yn wastad:Am hyn, ni’m symudir o’m lle.Rwy’n llawen. Caf fyw yn ddiogel,Ac ni ddaw un distryw i mi.Dangosi imi lwybr pob gwynfyd.Mae mwyniant am byth ynot ti.