1-4 Curwch ddwylo yr holl bobloedd,Rhowch wrogaeth lon i Dduw,Cans ofnadwy yw’r Goruchaf,Brenin yr holl ddaear yw.Fe ddarostwng bobloedd lawerA chenhedloedd danom ni,A rhoes inni ein hetifeddiaeth,Balchder Jacob ydyw hi.
5-9 Yn sŵn llawen ffanffer utgyrn,Yn sŵn bloedd, esgynnodd Duw.Canwch fawl i Dduw ein brenin,Brenin yr holl ddaear yw.Gyda phlant Duw Abram unoddTywysogion yr holl fydGer ei orsedd; ef a’u piau,Ac mae’n uwch na hwy i gyd.