1-3 Diolchaf, Arglwydd, am dy hollRyfeddodau.Try fy ngwrthwynebwyr ollYn eu holau;Ond â mi fe fuost ti’nGwbl uniawn.Eistedd ar dy orsedd fry’nFarnwr cyfiawn.
4-8 Cosbaist y drygionus rai,A’r cenhedloedd;Difa’u henw a dileuEu dinasoedd.A hyd byth, ar orsedd fawrDy uchelder,Berni bobloedd daear lawrMewn cyfiawnder.
9-12 Bydded Duw yn noddfa i’rGorthrymedig.Bydd y sawl a’i cais yn wirYn gadwedig.Canwch fawl i’r Arglwydd Dduw.Ef, Duw Seion,Yw’r dialydd gwaed a glywWaedd ei weision.
13-16 Cod fi, Dduw, o byrth y bedd,O’m helbulon,Fel y molaf di mewn heddYm mhyrth Seion.Maglwyd y rhai drwg yn nwydEu dichellion;Daliodd Duw hwy’n sownd yn rhwydEu cynllwynion.
17-20 Nid am byth y troir yn ôlGri’r anghenus,Ond dychweled i SheolY drygionus.Dyro d’arswyd, Dduw, yn chwimYn eu calon,Fel y gwelont nad ŷnt ddimOnd meidrolion.