1-2 Da yw dy foli, Arglwydd Dduw,A chanu i’th enw, gweddus yw:Sôn am dy gariad gyda’r wawr,A’r nos am dy ffyddlondeb mawr.
3-5 Â’r delyn fwyn a’i thannau mân,Ar gordiau’r dectant, seiniwn gân.Cans gwaith dy ddwylo a’m llonnodd i;Mor ddwfn yw dy feddyliau di!
6-8 Un ynfyd yw y sawl na ŵyrY caiff y drwg eu difa’n llwyr;Dinistrir hwy, er maint eu bri,Ond dyrchafedig byth wyt ti.
9-11 Difethir dy elynion di,Ac yn eu cwymp fe’m llonnir i.Eneiniaist fi ag olew gwychA chodi ’nghorn fel corn yr ych.
12-13 Blodeua’r da fel palmwydd ir,Fel cedrwydd Lebanon, drwy’r tir.Yn nhŷ yr Arglwydd maent yn byw;Blodeuant yng nghynteddau’n Duw.
14-15 Parhant i ffrwytho hyd yn oedMewn henaint, wyrdd ac iraidd goed,I ddweud nad oes camwri yn Nuw:Ef yw fy nghraig, ac uniawn yw.