1-3 Ar fryniau sanctaidd y sylfaenodd hi,Ac fe roes yr Arglwydd iddi fwy o friNa holl drefi Jacob. Gogoneddus ywPob rhyw sôn amdanat ti, O ddinas Duw. 5 Yn Seion, dinas Duw, y’n ganwyd ni.Y Goruchaf Un sy’n ei sylfaenu hi.
4 Yr wyf yn enwi’r Aifft a BabilonYmhlith y cenhedloedd sy’n cydnabod hon;Yn Philistia a Thyrus, Ethiopia i gyd,Gwelir i blant Seion wasgar drwy’r holl fyd.
5 Yn Seion, dinas Duw, y’n ganwyd ni.Y Goruchaf Un sy’n ei sylfaenu hi.
6-7 Wrth restru’r bobloedd, bydd yr Arglwydd DduwYn cofnodi am lawer, “Un o Seion yw”.Dawnswyr a chantorion, unant yn y gri:“Mae ein holl darddiadau, Seion, ynot ti”. 5 Yn Seion, dinas Duw, y’n ganwyd ni.Y Goruchaf Un sy’n ei sylfaenu hi.