1-3 Dy wisg, ysblander ydyw hi;Dy fantell yw y wawr.Fe daeni’r nef fel llen;Dy blas a seiliaist gyntGoruwch y dyfroedd; ei drwy’r nenAr esgyll chwim y gwynt.
4-7 Gwyntoedd a fflamau tânSydd weision oll i ti.Sylfaenaist ti y ddaer achlân,Ac nis symudir hi.Bu’r dyfnder yn gor-doi’iMynyddoedd mawr i gyd,Ond gwnaethost ti i’r dyfroedd ffoiA chilio rhag dy lid.
8-12 I’r lle a bennaist ânt;Gosodaist iddynt hwyDerfynau pendant fel na chântOrchuddio’r ddaear mwy.Mewn hafnau diystŵrFe roist ffynhonnau iachLle daw’r bwystfilod gwyllt am ddŵr,Lle nytha’r adar bach.
13-15 O’th blas rwyt yn dyfrhauY ddaear; tyfi diY gwellt i’r gwartheg; rwyt yn hauAt ein gwasanaeth ni.Cawn ddwyn o’r ddaear wledd:Yn fara trown ei hŷd;Cawn olew i ddisgleirio’n gwedd,A gwin i lonni’n bryd.
16-18 Digoni a wnei y coed,Hen gedrwydd Lebanon,Lle bu’r ciconia’n byw erioed,Lle nytha’r adar llon.Ar y mynddoedd pawrY geifr, yn fodlon, glyd,A lloches yw’r clogwyni mawrI’r brochod mân i gyd.
19-23 Trefnaist ei chylch i’r lloer;Daw’r hirnos, pan y maeBwystfilod gwig, â’u rhuo oer,Yn prowla am eu prae.Ond pan ddaw’r haul i’w daith,Fe giliant hwy yn llwyr.Daw pobl allan at eu gwaithA’u llafur hyd yr hwyr.
24-26 Doeth a niferus iawnYw gwaith dy law, O Dduw:Mae’r ddaear lydan oll yn llawnO’th greaduriaid byw;A’r môr â’i bysg di-ri,A’i longau o bob llun,A Lefiathan, a wnest tiEr sbort i ti dy hun.
27-30 Arnat dibynnu a wnântAm ymborth yn ei bryd.Pan roi, fe’u casglant, ac fe gântEu llwyr ddiwallu i gyd.Pan ei â’u hanadl frau,Dychwelant yn llwch mud,Ond daw dy anadl di i fywhauAc adnewyddu’r byd.
31-32 Gogoniant Duw a fo’nDragywydd a di-goll.A bydded iddo lawen sônAm ei weithredoedd oll.Pan fwria’i drem i’r llawr,Fe bair ddaeargrynfeydd;Pan gyffwrdd â’r mynyddoedd mawr,Fe fygant gan losgfeydd.
33-35 Canaf i’r Arglwydd gân,A’i foli tra bwyf byw,A boed fy myfyrdodau’n lânA chymeradwy i Dduw.Yr anfad yn ein plith,Erlidied hwy o’u tref.Bendithiaf fi yr Arglwydd byth,A molwch chwithau ef.