Salmau 18 SCN

SALM 18

Diolch am waredigaeth

1-3 Caraf di, Arglwydd, fy nghryfder, fy nghraig a’m gwaredydd,Duw yw fy nghraig lle llochesaf, fy nghaer, fy achubydd.Gwaeddaf ar Dduw,Cans fy ngwaredwr i ywRhag fy ngelynion aflonydd.

4-6 Pan oedd marwolaeth a distryw yn clymu amdanaf,Gwaeddais yn daer yn fy ngofid ar Dduw y Goruchaf.Clywodd fy llefO’i deml lân yn y nef.Clywodd fy ngwaedd a daeth ataf.

7-10 Crynodd y ddaear a gwegian; ysgydwodd y bryniau.Daeth mwg o’i ffroenau; o’i gylch yr oedd marwor yn cynnau.A daeth i lawrDrwy’r nen fel tymestl fawr:Marchog y gwynt a’r cymylau.

11-14 Taenodd gymylau yn orchudd a chaddug yn guddfan;Cenllysg a thân o’r disgleirdeb o’i flaen a ddaeth allan.Daeth ei lais efMegis taranau o’r nef,A’i fellt fel saethau yn hedfan.

15-17 Gwelwyd gwaelodion y môr, a dinoethwyd holl seiliau’rByd gan dy gerydd di, Arglwydd, a chwythiad dy ffroenau.Tynnodd ef fiO ddyfroedd cryfion eu lli.Gwaredodd fi o’m holl frwydrau.

18-19 Daethant i’m herbyn yn lluoedd yn nydd fy nghaledi,Ond fe fu’r Arglwydd fy Nuw yn gynhaliaeth driw imi.Dug fi o’r tânI le agored a glân,Am ei fod ef yn fy hoffi.

20-24 Talodd yr Arglwydd i mi yn ôl glendid fy nwylo,Am imi gadw ei lwybrau, heb droi oddi wrtho.Cedwais o hydEi holl gyfreithiau i gyd:Cedwais fy hun rhag tramgwyddo.

25-27 Rwyt ti’n ddi-fai i’r di-fai, ac yn ffyddlon i’r ffyddlon,Pur i’r rhai pur, ond yn wyrgam i bawb sy’n elynion.Yr wyt yn haelAt y rhai gwylaidd a gwael,Ac yn darostwng y beilchion.

28-30 Ti sy’n goleuo fy llusern, yn troi nos yn nefoedd.Trwot ti neidiaf dros fur a goresgyn byddinoedd.Tarian o ddur,Profwyd ei air ef yn bur.Perffaith yw Duw’n ei weithredoedd.

31-33 Pwy ond ein Duw ni sydd graig? Pwy sydd Dduw ond yr Arglwydd?Rhydd imi nerth, ac fe’m tywys ar lwybrau perffeithrwydd.Trwy’i rym fe wnaedFel carnau ewig fy nhraed:Troediaf fynyddoedd mewn sicrwydd.

34-37 Ef sy’n fy nysgu i ryfela, i dynnu y bwa.Rhoes imi darian i’m harbed; â’i law fe’m cynhalia.Ni lithraf byth,Cans mae fy llwybrau mor syth.Daliaf elynion a’u difa.

38-41 O dan fy nhraed y syrthiasant, ac rwy’n eu trywanu.Ti a’m gwregysaist â chryfder a nerth i’w gorchfygu.Rhoddaist fy nhroedAr eu gwegilau’n ddi-oed,Ac ni ddaw neb i’w gwaredu.

42-45 Malaf hwy’n fân, ac fe’u sathraf fel llaid ar y strydoedd.Ti sy’n fy ngwneud, wedi’r brwydro, yn ben ar genhedloedd.Mae estron rai’nPlygu o’m blaen dan eu bai;Deuant mewn ofn o’u cuddleoedd.

46-48 Byw yw yr Arglwydd fy Nuw, ac y mae’n fendigedig.Bydded y Duw sy’n rhoi dial i mi’n ddyrchafedig.Gwaredodd fiRhag fy ngelynion di-riA’m gwrthwynebwyr ystyfnig.

49-50 Felly, clodforaf di, Arglwydd, ymysg y cenhedloedd.Cedwi yn ffyddlon i’th frenin eneiniog byth bythoedd;Ac ym mhob gwladFe ddiogelir mawrhadDafydd a’i had yn oes oesoedd.