1-2 Mae fy ngelynion lu,Yn uchel iawn eu llef,Yn holi’n goeglyd, “Pam na ddawEi Dduw i’w achub ef?”
3-4 Ond yr wyt ti, fy Nuw,Yn darian gref i mi.Gwaeddaf yn uchel arno ef;Fe etyb yntau ’nghri.
5-6 Mi gysgaf, a deffrôf,Am fod fy Nuw o’m tu.Nid ofnwn fyrddiwn o rai drwg.Nac ymosodiad llu.
7-8 Fe drewi di’r rhai drwg,A thorri’u dannedd llym.Ti biau’r waredigaeth fawr.Bendithia ni â’th rym.