1-2a Molwch Dduw; fe ddaw bodlonrwyddI bob un sy’n ofni’r ArglwyddAc yn hoffi ei orchmynion;Cedyrn fydd ei ddisgynyddion.
2b-3 Fe fendithir teulu’r uniawn.Bydd ei gartref ef yn orlawnO oludoedd, a’i gyfiawnderYn parhau tra pery amser.
4-5a Mewn tywyllwch caiff oleuni;Llawn yw’r cyfiawn o dosturi.Da yw trugarhau yn raslonA rhoi benthyg i’r rhai tlodion.
5b-6 Da yw trefnu pob rhyw faterMewn gonestrwydd a chyfiawnder.Yr un cyfiawn, nis symudir,Ac am byth ei waith a gofir.
7-8 Nid yw’n ofni drwg newyddion,Ond diysgog yw ei galon,Ac nid ofna nes gweld diweddEi elynion a’u hanwiredd.
9 Rhoes i’r tlawd haelioni lawer;Byth fe bery ei gyfiawnder;Ac fe gaiff gan Dduw o’r diweddEi ddyrchafu mewn anrhydedd.
10 Mae’r drygionus yn cynhyrfuO weld hyn, gan ysgyrnygu;Ond diflannu yn adfydusA wna gobaith y drygionus.