1-3 Arglwydd, rwy’n dyrchafuF’enaid atat ti.Paid â chywilyddioF’ymddiriedaeth i.Nid i’r rhai sy â’u gobaithYnot ti, O Dad,Y daw byth gywilydd,Ond i rai llawn brad.
4-6 Rho i mi wybodaeth,Arglwydd, am dy ffyrdd.Rho i mi hyfforddiantYn dy lwybrau fyrdd.Arwain fi, a dysg fi.Ti bob amser ywYr Un a ddisgwyliafI’m gwaredu, O Dduw.
7-9 Cofia dy ffyddlondeb,Sydd yn bod erioed.Paid â chofio ’mhechodCyn im ddod i oed.Da yw Duw ac uniawn.Arwain wylaidd raiA dysg bechaduriaidYn ei ffordd ddi-fai.
10-11 Cariad a gwirioneddYw ei lwybrau i gydI’r rhai sydd yn cadw’iGyfraith ef o hyd.Er mwyn d’enw, Arglwydd,Maddau di yn awrImi fy holl gamwedd,Sydd yn gamwedd mawr.
12-15 Dysgi i’r sawl a’th ofnaRodio llwybrau gwir.Caiff ei blant ef hefydEtifeddu’r tir.Rhoddi dy gyfeillachIddo i’w mwynhau.Trof yn wastad atat:Ti sy’n fy rhyddhau.
16-19 Bydd drugarog wrthyf,Canys yr wyf fi’nUnig ac anghenus.Dwg fi o’m gofid blin.Gwêl fy ing, a maddauFy mhechodau gau.Gwêl fy llu gelynion,Sy’n fy llwyr gasáu.
20-22 Paid â’m cywilyddio.Cadw, gwared fi,Canys rwy’n llochesu,Arglwydd, ynot ti.Yn d’uniondeb byddafDdiogel tra bwyf byw.Gwared o’i blinderauIsrael, O fy Nuw.