1-2a Gwyn fyd y sawl sy’n meddwl amY tlawd, cans fe fydd DuwYn gwared hwn rhag adfyd blinAc yn ei gadw’n fyw.
2b-3 Fe’i gwna yn ddedwydd yn y tir,Nis rhydd i fympwy cnaf.Fe’i cynnal ef, a pharatoiEi wely pan fo’n glaf.
4 Dywedais innau, “Trugarha,O Arglwydd, wrthyf fi;Iachâ fi’n awr, oherwydd gwnIm bechu yn d’erbyn di”.
5 Dirmyga fy ngelynion fi,Gan ddweud mewn gwawd, “Pa brydY bydd ef farw, a dileuEi enw ef o’r byd?”
6 Pan ddelo un i’m gweld, mae’i sgwrsYn rhagrith oll i gyd;Hel clonc amdanaf yw ei nodI’w thaenu ar y stryd.
7-8 Fe sisial pawb sy’n fy nghasáuÂ’i gilydd am fy nghlwy:“Mae rhywbeth marwol arno’n siŵr;Ni chyfyd eto mwy”.
9 Mae hyd yn oed fy nghyfaill hoff,Fu’n bwyta wrth fy mwrdd,A mi’n ymddiried ynddo’n llwyr,Yn troi ei ben i ffwrdd.
10 O adfer fi yn awr, fy Nuw,O Arglwydd, trugarha,A lle y gwnaethant imi ddrwgMi dalaf innau dda.
11 Caf wybod imi gael dy ffafrPan na fydd llawenhauGan fy ngelynion ar fy nhraul,A thi yn fy mywhau.
12-13 Cynheli fi, cans cywir wyf,Yn d’wyddfod byth heb sen.Duw Israel, bendigedig foAm byth. Amen. Amen.