1-2 Bydd drugarog wrthyf, Arglwydd,Yn ôl dy ffyddlondeb drud;Golch fi’n lân o’m holl euogrwydd,A glanha fi o’m beiau i gyd.
3-4 Gwn fy mod i wedi pechu,Arglwydd, yn dy erbyn di.Cyfiawn wyt yn fy nedfrydu,Cywir yn fy marnu i.
5-6a Fe’m cenhedlwyd mewn drygioni,Ganwyd fi i ddrygau’r byd;Ond gwirionedd a ddymuniOddi mewn i mi o hyd.
6b-7 Felly, dysg i mi ddoethineb;Pura ag isop fi yn lân;Golch fi nes bod imi burdebGwynnach nag yw’r eira mân.
8-9 Llanw fi, a ddrylliaist gynnau, gorfoledd llon yn awr.Cuddia d’wyneb rhag fy meiau,A dileu ’mhechodau mawr.
10-11 Crea ynof galon lanwaith,Ysbryd cadarn rho i mi;A phaid byth â’m bwrw ymaith,Na nacáu im d’ysbryd di.
12-13 Rho im eto orfoledduYn d’achubiaeth; rho i miYsbryd ufudd, a chaf ddysguI droseddwyr dy ffyrdd di.
14-15 Os gwaredi fi rhag angau,Traethaf dy gyfiawnder glân.Arglwydd, agor fy ngwefusau,A moliannaf di ar gân.
16-17 Cans yr aberth sy’n dderbyniolIti, ysbryd drylliog yw.Calon ddrylliog, edifeiriol,Ni ddirmygi di, O Dduw.
18-19 Gwna ddaioni eto i Seion;Cod Jerwsalem i’w bri,A chei dderbyn eto’n fodlonEin hoffrymau cywir ni.