1-2a Duw yw ein noddfa ni a’n nerth.Ein cymorth yw o hyd.Ac felly nid arswydwn peSymudai yr holl fyd;
2b-3 Na phe bai’r holl fynyddoedd mawrYn cwympo i’r môr islaw;Na phe terfysgai’r dyfroedd nesI’r bryniau ffoi mewn braw.
4 Mae afon deg a’i ffrydiau hiYn llonni dinas Duw,Y ddinas sanctaidd, lle y mae’rGoruchaf Un yn byw.
5-6 Mae Duw’n ei chanol; diogel fydd;Yn fore helpa hi.Pan gwyd ei lais, mae gwledydd bydYn toddi o’i flaen yn lli.
7-8 Mae Duw y Lluoedd gyda ni,Duw Jacob yw ein caer.O dewch i weld yr hyn a wnaeth,Ei ddifrod ar y ddaer.
9 Gwna i ryfeloedd beidio trwyY ddaear oll achlân.Fe ddryllia’r bwa a’r waywffon,Fe lysg dariannau â thân.
10-11 Dysgwch mai ef yw’r unig Dduw,Y dyrchafedig, claer.Mae Duw y Lluoedd gyda ni,Duw Jacob yw ein caer.