1-3 O Arglwydd, llawenychaY brenin yn dy nerth;Mae’n gorfoleddu oblegidD’achubiaeth fawr ei gwerth.Rhoist iddo heb wrthodiadEi bob deisyfiad taer.Doist ato â bendithion;Rhoist iddo goron aur.
4-6 Am fywyd y gofynnodd:Fe’i cafodd gennyt ti;A chafodd drwy d’achubiaethOgoniant, clod a bri.Yr wyt yn rhoddi iddoDros byth fendithion llawn,A’th bresenoldeb hyfrydA’i gwna yn llawen iawn.
7-10 Mae’r brenin yn ymddiriedYn nerth yr Arglwydd Dduw;Ac am fod Duw yn ffyddlonBydd ddiogel tra bo byw.Cei afael yn d’elynionA’r rhai sy’n dy gasáu,A’u gwneud fel ffwrnais danllyd,A’r tân yn eu hamgáu.
11-13 Dinistri eu hepil hefydO blith plant dynol ryw.Bwriadent ddrwg i’th erbyn,Heb lwyddo. Ffônt rhag Dduw.Aneli at eu hwynebauDy fwa a’th saethau llym.Cod, Arglwydd, yn dy gryfder!Cawn ganu am dy rym!