1-3 Dyrchafaf di, O Arglwydd,Am iti f’achub i.Gwrthodaist i’m gelynionFy ngwneud yn destun sbri.O Arglwydd, gwaeddais arnat,A daethost i’m hiacháu;Fe’m dygaist i i fynyO Sheol, a’m bywhau.
4-5 Chwychwi ffyddloniaid, rhoddwchI’r Arglwydd fawl ar gân,A rhoddwch ddiolch beunyddI’w enw sanctaidd, glân.Am ennyd y mae’i ddicter,Am oes ei ffafrau mawr;A thry wylofain heno’nLlawenydd pan ddaw’r wawr.
6-9 Dywedwn yn fy hawddfyd,“Byth ni’m symudir i”,Ond siglwyd fy nghadernidPan guddiwyd d’wyneb di.Ymbiliais am drugaredd,Gan ddweud, “Pa les a fyddO’m marw, os disgynnafI bwll y beddrod prudd?
10-12 A all y llwch byth foliDy lân wirionedd di?O Arglwydd, bydd drugarog,A chynorthwya fi.”Fe droist sachliain f’adfydYn wisg i ddawnsio’n llon.Hyd byth, fy Nuw, fe’th folafAm y drugaredd hon.