1-2 Mae’r nef yn adrodd mawr ogoniant Duw,A thraetha’r wybren waith ei ddwylo byw.Byrlymu siarad y mae dydd wrth ddyddA nos wrth nos am ei gyfeillach gudd.
3-4a Mud yw eu llais, ac nid oes ganddynt iaithNa geiriau. Eto, drwy’r holl ddaear faithFe â eu sain, a chlyw eithafoedd bydSŵn eu lleferydd am ein Duw o hyd.
4b-6 Daw’r haul o’i babell megis priodfab llonNeu fabolgampwr cryf yn curo’i fron.Amgylchu’r wybren y mae’i daith a’i des,Ac nid oes dim yn cuddio rhag ei wres.
7-8 Mae cyfraith berffaith Duw’n dwyn egni’n ôl;Tystiolaeth sicr Duw’n gwneud doeth o’r ffôl.Mae deddfau cywir Duw yn llawenhau;Gorchymyn Duw’n goleuo llygaid cau.
9-10 Ofn Duw sydd lân, a phery byth yn ir.Mae barnau Duw yn gyfiawn ac yn wir.Hyfrytach ŷnt nag aur neu drysor cêl,Melysach na diferion diliau mêl.
11-13a Rhybuddiant ni; o’u cadw gwobr a fydd.Glanha fi oddi wrth fy meiau cudd.Rhag pechod hyf, a yrr dy was ar ŵyr,O cadw fi, rhag iddo ’nhrechu’n llwyr.
13b-14 Caf yna fod heb fai na phechod mawr.Boed geiriau ’ngenau wrth dy fodd yn awrA’m holl feddyliau’n gymeradwy i ti,O Arglwydd Dduw, fy nghraig a’m prynwr i.