1 Canaf am ffyddlondeb,Canaf am uniondeb;I ti, dirion Arglwydd,Pynciaf gerdd yn ebrwydd.
2 Dy ffordd di a ddysgaf.Pryd y deui ataf?Byddaf gywir-galonYmysg fy nghymdeithion.
3 Ni osodaf lygadAr ddim byd sy’n anfad.Cas yw gennyf dwyllwr:Ni rof iddo swcwr.
4 Cilia’r gwyrgam galonRhagof ar eu hunion.Ni wnaf gymdeithasuGyda’r sawl sy’n pechu.
5 Y sawl sy’n enllibioCyfaill, rhof daw arno;Ac ni allaf arddelY rhai balch, ffroenuchel.
6 Ond y mae fy llygaidAr y gwir ffyddloniaid.Pobl y ffordd berffeithiafA gaiff weini arnaf.
7 Ni chaiff neb sy’n twylloYn fy nhŷ breswylio,Ac ni chaiff celwyddgiAros yn fy ngŵydd i.
8 Ddydd wrth ddydd helbulus,Tawaf y drygionus;Trof hwy i ffwrdd o ddinasDuw, ddihirod atgas.