1 O Arglwydd, barna fi.Rhodiais yn gywir iawn,A rhois, heb ballu, ynot tiFy ymddiriedaeth lawn.
2-3 Chwilia fy meddwl; rhoBrawf ar fy nghalon i.Cadwaf fy nhrem, wrth rodio ymlaen,Ar dy ffyddlondeb di.
4-5 I’r diwerth ni bûm ffrind,Nac i ragrithwyr gau;Ni chedwais gwmni i rai drwgYr wyf yn eu casáu.
6-7 Golchaf fy nwylo, cansDieuog ydwyf fi.Canaf o gylch dy allor amDy ryfeddodau di.
8-9 Caraf y tŷ lle’r wyt,Lle mae d’ogonoiant drud.Na chyfrif fi ymhlith y rhaiSy’n pechu a lladd o hyd:
10-12 Y rhai y mae’u llaw dde’nLlawn llwgrwobrwyon brad,Ond gwared fi, cans cywir wyf;Bendithiaf di, O Dad.