1-3 Arglwydd, gwared fi trwy d’enw;A thrwy d’allu – nerthol yw –Cyfiawnha fi. Gwrando ’ngweddi;Geiriau dwys fy ngenau clyw.Gwŷr trahaus sy’n ceisio ’mywyd,Na feddyliant ddim am Dduw.
4-7 Ti, O Dduw, yw ’nghynorthwywr;Ti sy’n cynnal f’einioes i.Cosba hwy trwy dy wirionedd.Molaf byth dy enw di.Dros gyfyngder a gelynionFe’m gosodaist i mewn bri.