1-3 Molwch yr Arglwydd, weision yr Arglwydd;Molwch ef tra byddoch byw.O gyfodiad haul hyd wawlOla’r machlud, traethwch fawlA bendigwch yr Arglwydd ein Duw.
4-6 Uchel yw’r Arglwydd, uwch y cenhedloedd,Uwch ei ogoniant na’r nef.Uchel yw ei orsedd fawr,Eto i gyd, mae’n gwyro i lawrAt yr isel. Pwy’n wir sydd fel ef?
7-9 Cwyd rai mewn angen o lwch y domenAt dywysogion i fyw.Teulu i’r wraig ddi-blant a rydd,A mam falch i feibion fydd.Molwch, molwch yr Arglwydd ein Duw.