Salmau 22 SCN

SALM 22

I’r Arglwydd y perthyn brenhiniaeth

1-2 Fy Nuw, fy Nuw, pam y’m gadewaist i?Pam cadw draw oddi wrth holl eiriau ’nghri?Rwy’n gweiddi arnat ddydd a nos bob awr,Ond nid atebi fi’n fy mlinder mawr.

3-5 Ond fe’th orseddwyd di, y Sanctaidd Un,Yn foliant Israel. Ynot ti dy hunYr ymddiriedai’n tadau dan eu clwy:Achubwyd ac ni chywilyddiwyd hwy.

6-8 Pryf ydwyf fi. Nid ydwyf neb. Rwy’n wawd.Mae pawb a’m gwêl yn wfftio at fy ffawd,Gan ddweud, “Fe roes ei achos i Dduw’r nef,A chan fod Duw’n ei hoffi, achubed ef”.

9-11 Ond ti o groth fy mam a’m tynnodd i;Fe’m bwriwyd ar fy ngeni arnat ti.Paid â phellhau oddi wrthyf, cans nid oesNeb a rydd gymorth im yn nydd fy loes.

12-14a Amdanaf mae gwŷr cryfion wedi cau,Fel teirw Basan. Llewod ŷnt mewn ffauYn rheibio a rhuo, ac y mae eu stŵrYn gwasgu’r nerth o’m corff, fel tywallt dŵr.

14b-15a Datododd fy holl esgyrn, ac fe lwyrDoddodd fy nghalon, fel pe bai yn gwyrMae ’ngheg yn sych fel cragen ar y stryd,A glŷn fy nhafod yn fy ngenau mud.

15b-17a Fe’m bwriaist i lwch angau. Y mae cŵnO’m cylch, dihirod brwnt yn cadw sŵn.Tyllant fy nhraed a’m dwylo â’u gwayw dur,A gallaf gyfrif f’esgyrn yn fy nghur.

17b-19 Dan rythu arnaf, rhannant yn eu mysgFy nillad. Bwriant goelbren ar fy ngwisg.Ond ti, O Arglwydd, paid â sefyll draw;O brysia, rho im gymorth nerth dy law.

20-22 Gwared fy unig fywyd rhag y cledd,Rhag cyrn y teirw, a rhag safn y bedd.Ac fe gyhoeddaf d’enw i’m brodyr i,Ac yn y gynulleidfa molaf di.

23-24 Molwch ef, chwi sy’n ofni’r Arglwydd Dduw.Blant Israel, parchwch ef; trugarog yw.Heb guddio’i wyneb, clywodd lef y sawlY sarnodd y gorthrymwr ar ei hawl.

25-26 Fe’i molaf yn y gynulleidfa gref.Cadwaf fy llw yng ngŵydd ei bobl ef.Digonir yr anghenus, a bydd bywAm byth galonnau’r rhai sy’n moli Duw.

27-28 Daw’n ôl at Dduw holl gyrrau eitha’r byd,Ymgryma’r holl genhedloedd iddo ynghyd,Cans iddo y perthyn y frenhiniaeth fawr,Ac ef sy’n llywodraethu teulu’r llawr.

29-31 Sut gall y meirw’i foli yn Sheol?Ond byddaf fi fyw iddo, a’m plant ar f’ôl.Sonnir am Dduw wrth genedlaethau i ddod.Bydd pobl nas ganwyd eto’n traethu’i glod.