1-5 Pam bwrw dy ddefaid o’r neilltuYm mwg dy ddigofaint, O Dduw?Ymwêl eto â’r bobl a brynaist,A Seion, lle’r oeddit yn byw.Cyfeiria dy draed at dy demlSy’n awr yn adfeilion di-lun –D’elynion yn rhuo yn dy gysegrA chodi’u harwyddion eu hun.
6-11 Chwalasant hi, megis coedwigwyrYn chwifio eu bwyeill mewn coed.Malasant y cerfwaith, a maedduPreswylfod dy enw erioed.Llosgasant holl demlau ein cenedl,Ac ni ŵyr neb oll am ba hyd.Pa hyd, Dduw, y’th wawdia d’elynion,A thithau yn aros yn fud?
12-17 Ond ti yw fy mrenin, iachawdwrY ddaear, a rhannwr y môr.Fe ddrylliaist saith pen Lefiathan,A’i roi i forfilod yn stôr.Agoraist ffynhonnau ac afonydd;Gosodaist derfynau y byd.Sefydlaist yr heulwen a’r lleuad,A threfnu’r tymhorau i gyd.
18-23 Mae’r gelyn, O Dduw, yn dy wawdio.Na wna dy golomen yn fwydBwystfilod. Rho sylw i’th gyfamodAr ddaear sy’n llawn trais a nwyd.Na ddrysa y rhai gorthrymedig,Ond boed i’r anghenus a’r tlawdDy foli. O Dduw, dadlau d’achos,A chofia d’elynion a’u gwawd.