1-3 Rwy’n caru Duw am iddo ef,Pan waeddais, wrando ar fy llef.Amdanaf yr oedd ing yn cauA chlymau angau yn tynhau.
4-5 Ar enw’r Arglwydd gelwais i:“Rwy’n erfyn, Arglwydd, gwared fi”.Yr Arglwydd, da a chyfiawn yw,A llawn tosturi yw ein Duw.
6-7 Fe geidw Duw rai syml y byd.Gwaredodd fi o’m poenau i gyd.Caf orffwys, lle bûm gynt yn wael,Cans wrthyf fi bu Duw yn hael.
8-9 Gwaredodd fi rhag angau du,Fy llygaid pŵl rhag dagrau lu,Fy nhraed rhag baglu. Gerbron DuwCaf rodio mwy yn nhir y byw.
10-11 Yr oeddwn gynt ar lan y bedd,A chystudd trwm yn hagru ’ngwedd;Ac meddwn wrthyf fi fy hun,“Twyllodrus ydyw cymorth dyn”.
12-13 Pa beth a dalaf fi yn awrI Dduw am ei haelioni mawr?Mi godaf gwpan fy iachâdA galw’i enw mewn coffâd.
14-15 Mi dalaf f’addunedau i DduwYng ngŵydd ei bobl oll. Nid ywMarwolaeth ei ffyddloniaid efYn fater bach i Dduw y nef.
16-17 Yn wir, O Arglwydd, rwyf o drasDy weision di; rwyf finnau’n was.Datodaist fy holl rwymau i.Rhof aberth diolch nawr i ti.
18-19 Mi dalaf f’addunedau i DduwYng ngŵydd ei bobl ac yn eu clyw,Yn nheml yr Arglwydd uchel-drem,Dy ganol di, Jerwsalem.