1-3a Arglwydd, doed fy ngweddi bruddAm dy gymorth nos a dyddAtat ti. Yr wyf yn llawnO helbulon dyrys iawn.
3b-5 At Sheol yr wy’n nesáu;Rwyf fel un sydd yn llesgáu,Fel y meirw yn y beddNa chânt brofi dim o’th hedd.
6-8 Bwriaist fi i fannau llwm.Daeth dy ddicter arna’ i’n drwm.Gwnest i’m ffrindiau ymbellhau,Fe’m caethiwaist a’m tristáu.
9-10 Pyla poen fy llygaid i.Galwaf beunydd arnat ti.A wnei di i’r meirwon mudRai o’th ryfeddodau drud?
11-12 A foliennir di, O Dduw,Yn nhir Abadon? A ywYn wybyddus ddim o’th waithYn nhir ango’r caddug maith?
13-15a Llefaf am dy gymorth di;Yn y bore clywi fi.Pam fy ngwrthod i, O Dduw?Rwyf ar drengi, a’m corff yn wyw.
15b-16 Fe ddioddefais ddychrynfeyddO’m hieuenctid; dy wasgfeyddSy’n fy nifa; drosof fiLlifodd dy ddigofaint di.
17-18 Mae’n f’amgylchu megis lli,Ac yn cau amdanaf fi;Rwyf heb gyfaill yn y byd,Cans dieithriaist hwy i gyd.