1 Oracl Duw i’m brenin: “EisteddDi ar fy neheulaw i,Nes im osod dy elynionMegis troedfainc danat ti”.
2 Fe rydd Duw o Seion wialenEi awdurdod yn dy law;Llywodraetha dithau’n nertholDros dy holl elynion draw.
3 Mae dy bobl yn deyrngar itiAr ddydd d’eni o groth y wawrMewn gogoniant glân; cenhedlaisDi, fel gwlith, yn frenin mawr.
4-5a Tyngodd Duw, “Yr wyt offeiriad,Fel Melchisedec, am byth”.Bydd yr Arglwydd yn amddiffynDy ddeheulaw yn ddi-lyth.
5b-6a Pan ddaw dydd ei ddig, dinistriaHoll frenhinoedd balch y byd.Barna ymysg yr holl genhedloedd,Ac fe’u lleinw â meirwon mud.
6b-7 Fe ddinistria Duw benaethiaidGwledydd daear yn eu chwant;Ond fe rydd i frenin IsraelRym pan yf o ddŵr y nant.