1-4 Ynot, Arglwydd, ceisiais loches;Na foed c’wilydd arnaf byth;Achub fi yn dy gyfiawnder.Gwared fi yn union syth.Bydd i mi yn graig a noddfa.Er mwyn d’enw, tywys fi.Tyn fi o’r rhwyd sy’n cau amdanaf,Cans fy noddfa ydwyt ti.
5-8 I’th law di cyflwynaf f’ysbryd.Rwyt ti, Arglwydd, yn casáuPawb sy’n glynu wrth wag-ofereddAc addoli duwiau gau.Llawenhaf yn dy ffyddlondeb.Gwelaist fy nghyfyngder prudd;Ac ni’m rhoddaist yn llaw’r gelyn,Ond gollyngaist fi yn rhydd.
9-11 Trugarha! Mae’n gyfyng arnaf.Collodd fy holl gorff ei hoen.Darfod mae fy nerth gan dristwchA’m blynyddoedd gan fy mhoen.I’m gelynion rwyf yn ddirmyg,I’m cymdogion rwyf yn wawd,I’m cyfeillion rwyf yn arswyd;Ffy dieithriaid rhag fy ffawd.
12-15 Fe’m hanghofiwyd fel un marw;Llestr a dorrwyd wyf yn awr.Mae rhai’n cynllwyn am fy mywyd:Ar bob tu mae dychryn mawr.Ond rwyf fi’n ymddiried ynot,Ac yn dweud, “Ti yw fy Nuw”.Yn dy law y mae f’amserau.Gwared fi, a byddaf byw.
16-18 Na foed arnaf byth gywilydd,Ond llewyrcha di dy wedd.Cywilyddia y drygionus,A’u distewi yn y bedd.Taro di yn fud wefusauY rhai beilchion a thrahausSydd yn siarad am y cyfiawnYn gelwyddog a sarhaus.
19-21 Mawr i’r rhai sy’n d’ofni, Arglwydd,Dy ddaioni di o hyd.Yr wyt yn rhoi lloches iddynt,A’i amlygu i’r holl fyd.Fe’u cysgodi rhag gwag glebranY tafodau cas eu si.Bendigedig yw yr Arglwydd:Bu mor ffyddlon wrthyf fi.
22-24 Yn fy nychryn fe ddywedais,“Torrwyd fi yn llwyr o’th ŵydd”;Ond pan waeddais am dy gymorth,Clywaist ti fy ngweddi’n rhwydd.Carwch Dduw, ei holl ffyddloniaid,Cans fe’ch ceidw â’i law gref.Byddwch wrol eich calonnau,Bawb sy’n disgwyl wrtho ef.