1-4 Mae’r cenhedloedd wedi llygruD’etifeddiaeth di, O Dduw.Yn Jerwsalem, fe wnaethantDy lân deml yn adfail gwyw.Rhônt i adar a bwystfilodGyrff dy weision di, a’u cnawd.Tywalltasant waed yn ddyfroedd;Aethom oll yn destun gwawd.
5-9 Arglwydd, am ba hyd? A fyddi’nDdig am byth, yn llosgi’n dân?Tro dy ddicter at y bobloeddNad adwaenant d’enw glân.Paid â dal drygioni ein tadauYn ein herbyn. Trugarha.Dduw ein hiachawdwriaeth, maddauInni, er mwyn dy enw da.
10-13 Pam y caiff estroniaid holi,“Ple mae’u Duw?”? Diala’n glauWaed dy weision; clyw ochneidiau’rCarcharorion, a’u rhyddhau.Taro seithwaith ein cymdogionAm dy watwar; a chawn ni,Braidd dy borfa, ym mhob cenhedlaeth,Adrodd byth dy foliant di.