Salmau 35 SCN

SALM 35

O Arglwydd, dadlau drosof

1-4 O Arglwydd, dadlau drosofAc ymladd ar fy rhanYn erbyn fy ngelynion,A helpa fi; rwy’n wan.Tyn waywffon a phicellAt bawb a bair im glwy,A dweud, “Fi yw d’achubiaeth”,A chywilyddia hwy.

5-8 Dihangant rhagot, Arglwydd,Fel us o flaen y gwynt;A’th angel yn eu hymlidFe lithrant ar eu hynt.Taenasant rwyd dros bydewEr mwyn fy maglu i,Ond dalier hwy eu hunainA’u difa ynddi hi.

9-10 Ond llawenhaf fi ynotAc yn d’achubiaeth di,A gwaedda fy holl esgyrn,“Pwy sydd fel f’Arglwydd i,Yn achub cam y tlodionRhag cryfion cas y byd,A gwared rhag ysbeilwyrY gweiniaid oll i gyd?”

11-14 Daeth tystion yn fy erbyn chyhuddiadau ffug;Gwnânt ddrwg am dda a wneuthum:Bûm i a’m pen ymhlygMewn gweddi ac ympryd drostyntPan oeddent glaf a thlawd,Fel pe dros gyfaill imiNeu dros fy mam neu ’mrawd.

15-17 Ond roeddent hwy yn llawenY dydd y cwympais i:Poenydwyr nas adwaenwnYn fy enllibio’n ffri.Pan gloffais i, fe’m gwawdient,(O Arglwydd, am ba hyd?)Tyrd, gwared rhag anffyddwyrFy unig fywyd drud.

18-20 Diolchaf it bryd hynnyGerbron y dyrfa fawr;Ond na foed i’m gelynionGael llawenhau yn awr.Ni soniant ddim am heddwch,Dim ond cynllwynio bradYn erbyn pobl gyfiawn,Preswylwyr distaw’r wlad.

21-24 Siaradant yn fy erbynGan ddweud, “Aha, aha,Fe welsom ni â’n llygaid ...!”O Arglwydd, na phellha!Rho ddedfryd ar fy achosYn ôl d’uniondeb di;Na ro lawenydd iddyntYn fy anghysur i.

25-27a Ac na foed iddynt frolio,“Fe’i llyncwyd gennym ni”.Doed gwarth i bawb sy’n llawenOblegid f’adfyd i;Ond boed i’r rhai sydd eisiauCael gweld fy nghyfiawnhauGael gorfoleddu o’m plegidA chanu a llawenhau.

27b-28 Boed iddynt ddweud yn wastad,“Mawr yw yr Arglwydd DduwSydd yn dymuno llwyddiantEi was, a’i gadw’n fyw”.Ac yna, Dduw trugarog,Fy nhafod i a fyddYn datgan dy gyfiawnderA’th foli ar hyd y dydd.