Salmau 89 SCN

SALM 89

Ystyried y cyfamod â Dafydd

1-2 Datganaf byth dy gariad di,A’n cynnal ni drwy’r oesoedd,A’th faith ffyddlondeb, Arglwydd Dduw –Mor sicr yw â’r nefoedd.

3-4 Dywedaist ti, “Cyfamod grasA wneuthum â’m gwas Dafydd:‘Mi sicrhaf dy had mewn heddA’th orsedd yn dragywydd’”.

5-7 Rhoed holl lu’r nef fawl iti’n awrAm dy fawr ryfeddodau.Pwy ond yr Arglwydd Dduw, yn wir,A ofnir gan y duwiau?

8-9 O Arglwydd Dduw y lluoedd, pwyOhonynt hwy sydd cystal?Ti sydd yn llywodraethu’r môr,Yn chwyddo’r don a’i hatal.

10-12a Fe ddrylliaist dy elynion casA Rahab fras â’th fysedd.Rhoist nef a daear yn eu lle,A chreaist dde a gogledd.

12b-14a O Dabor ac o Hermon dawI’th nerthol law glodforedd.Barn a chyfiawnder yw’r ddau faenSy’n ffurfio sylfaen d’orsedd.

14b-15a Rhagflaenir di, O Arglwydd da,Gan gariad a gwirionedd.Gwyn fyd y rhai a ddaw mewn parch,A’th gyfarch mewn gorfoledd.

15b-16 Gwyn fyd y rhai sydd yn mwynhauDy ffafrau di bob amser,Sy’n gorfoleddu yn d’enw di,Yn ffoli ar dy gyfiawnder.

17-18 Cans ti yw ein gogoniant ni,Fe beri i’n corn ddyrchafael.Ein tarian ydyw’r Arglwydd Dduw,Ein brenin yw Sanct Israel.Hysbysaist dy ffyddloniaid gynt,Rhoist iddynt weledigaeth:

19 “O blith y bobl coronais lanc,Gŵr ifanc grymus odiaeth.

20-22 Eneiniais Ddafydd, fy ngwas glew,Â’m holew sanctaidd. IddoMi rof fy nerth a’m cryfder i,Ac ni chaiff neb ei goncro.

23-24 Nis trecha’r gelyn yn y gad.Fy nghariad a’m ffyddlondebFydd gydag ef. Yn f’enw byddYsblennydd ei ddisgleirdeb.

25-26 Dros yr afonydd oll a’r môrRhof iddo’r fuddugoliaeth;A dywed ef, ‘Fy nhad, ti ywFy Nuw a’m hiachawdwriaeth’.

27-28 Yn brif etifedd mi a’i gwnaf,Yr uchaf o’r brenhinoedd.Deil fy nghyfamod yn ddi-wadA’m cariad yn oes oesoedd.

29-32 Fe bery’i orsedd byth; ei blant,Os llygrant f’ordeiniadau,Neu dorri fy ngorchmynion da,A gosbaf â fflangellau.

33-34 Ond deil fy nghariad, er pob gwall;Di-ball fydd fy ffyddlondeb.Ni wadaf ddim a draethais i,Na thorri fy nghytundeb.

35-37 Mi dyngais i’m sancteiddrwydd lwI’w gadw byth â DafyddY pery ei had a’i orsedd efCyhyd â’r nef dragywydd.”

38-39 Ond eto, fe droist heibio friD’eneiniog di, a’i wrthod,A thaflu i’r llawr ei goron bur,Diddymu’r hen gyfamod.

40-41 Mae’i furiau yn furddunod prudd,A’i geyrydd yn adfeilion;Ysbeilir ef gan bawb yn ffri;Mae’n destun sbri cymdogion.

42-43 Ei wrthwynebwyr nawr sydd ben,A llawen ei elynion.Fe bylaist fin ac awch ei gleddA gomedd dy gynghorion.

44-45 Fe fwriaist orsedd hwn i’r llawr,A dryllio o’i law’r deyrnwialen,Byrhau’i ieuenctid, a rhoi tostGywilydd drosto’n gaenen.

46-48 Ai byth, O Dduw, y cuddi di?Ond cofia fi, sy’n feidrol.Pa ddyn fydd byw heb weld ei dranc?A ddianc neb rhag Sheol?

49-50 O Dduw, ple mae dy gariad di,A dyngaist gynt i Ddafydd?Gwêl fel yr wyf yn dwyn ar goeddSarhad y bobloedd beunydd.

51-52 Er bod d’eneiniog di a’i ffawdYn wrthrych gwawd a chrechwen,Bendigaid fyddi, Dduw di-lyth,Am byth. Amen ac Amen.