1-5a Canwch hyd eitha’ch dawn,A’ch telyn fwyn mewn hwyl,I Dduw eich nerth; mae’r lloer yn llawn,A ninnau’n cadw gŵyl;A seiniwch utgorn llon,Cans dyma ddeddf ein Duw,A roes pan ddaeth â’r genedl honO wlad yr Aifft yn fyw.
5b-7 Fe glywaf Dduw yn dweud,“Mi ysgafnheais iY baich ar d’ysgwydd gynt, a gwneudYn rhydd dy ddwylo di.Mi ddeuthum i’th fywhauMewn taran ac mewn gwynt,A phrofais dy deyrngarwch brauWrth ddŵr Meriba gynt.
8-12 Felly, O Israel, clywFi’n tystio yn d’erbyn di.Na fydded gennyt estron dduw,Ond gwrando arnaf fi.Myfi yw’r Arglwydd Dduw,A’th ddygodd di o’r Aifft.Ond Israel, cenedl gyndyn yw,A gyrrais hi i’w thaith.
13-16 O na bai Israel bythYn rhodio yn fy ffyrdd!Mi ddarostyngwn i yn sythEi gwrthwynebwyr fyrdd.Dôi’r gelyn yn un haigI blygu o’m blaen yn fud,Ond bwydwn di â mêl o’r graig.A’r gorau oll o’r ŷd.”