1-3 Y mae’r Arglwydd Dduw yn frenin;Cryna’r bobl, ysgydwa’r byd.Fe’i gorseddwyd ef yn SeionGoruwch y cerwbiaid mud.DyrchafedigYdyw. MoledPawb ei enw – sanctaidd yw.
4-5 Frenin cryf, fe gâr gyfiawnder,A sylfaenydd tegwch yw;Gwnaeth uniondeb barn yn Jacob.O dyrchafwch bawb ein Duw,Ac ymgrymwchWrth ei droedfainc –Sanctaidd, sanctaidd ydyw ef.
6-7 Yr oedd Moses gynt, ac AaronYmhlith ei offeiriaid ef;Samuel yn broffwyd iddo;Yn y golofn niwl o’r nefFe’u hatebodd,A chadwasantDystiolaethau Duw a’i ddeddf.
8-9 Arglwydd Dduw, rhoist ateb iddynt;Duw yn maddau fuost ti,Ond yn dial eu camweddau.O dyrchafwch ein Duw ni,Ac ymgrymwchYn ei fynydd –Sanctaidd, sanctaidd yw ein Duw.