1-3 O gwrando ’ngeiriau, Arglwydd da,Ystyria ’nghwyn, a chlywFy nghri am gymorth gennyt ti,Fy Mrenin i a’m Duw.
4-5a Disgwyliaf am y bore bach,Pan glywi di fy llais.Ni saif y drwg yn d’wyddfod byth,Ni hoffi neb trahaus.
5b-6 Difethi di’r celwyddgwn oll,Casei bob drwg a wnaed.Ffieiddia Duw’r twyllodrus rai,A’r sawl sy’n tywallt gwaed.
7-8 Ond gan mor fawr dy gariad, dofI’th deml i gadw’r oed;Yn dy gyfiawnder arwain fi,Gwna union ffordd i’m troed.
9-10 Nid oes ar eiriau’r drwg ddim coel,Mae’u llwnc fel beddrod du;Boed aflwydd iddynt, cosba hwyAm eu pechodau lu.
11-12 Ond llawenhaed a chaned pawbSy’n caru d’enw drud.Bydd tarian ffafr dy fendith drosY cyfiawn yn y byd.