Salmau 37 SCN

SALM 37

Diarhebion am Dduw

1-2 Na chenfigenna wrth y drwg,Na gwgu ar ddihiryn,Cans gwywant hwy fel glaswellt sych,Fel glesni gwych y gwanwyn.

3-4 Ymddiried yn yr Arglwydd Dduw,Gwna dda; cei fyw mewn digon.Mawrha yr Arglwydd, a chei’n rhyddDdeisyfiad cudd dy galon.

5-6 Rho di dy dynged ar Dduw’r nef,Rhydd ef ei gymorth iti;D’uniondeb fydd fel haul prynhawnYn loyw a llawn goleuni.

7 Bydd amyneddgar yn dy fyw,Disgwyl am Dduw yn raslon;Ac na fydd ddicllon wrth y rhaiSy’n llwyddo â’u cynllwynion.

8-9 Paid byth â digio, cans fe ddawDrwg di-ben-draw i’r llidus;Pobl Dduw a etifedda’r tir,Dinistrir y drygionus.

10-11 Cyn hir fe gilia’r drwg o’i dref,A’i le fydd anghyfannedd,A’r gwylaidd yn meddiannu’r tirA’i ddal mewn gwir dangnefedd.

12-13 Cynllwynia’r drwg i daro’r da,Ac ysgyrnyga’i ddannedd;Ond chwardd yr Arglwydd am ei ben,Aflawen fydd ei ddiwedd.

14-15 Fe gais rhai drwg â’u bwa a’u cleddRoi diwedd ar rai bychain,Ond fe â’r saeth a’r cleddyf drwyEu calon hwy eu hunain.

16-17 Gwell yw’r ychydig sydd i’r doethNa chyfoeth y drygionus.Dileir y drwg, ond bydd Duw’n dalI gynnal y difeius.

18-19 Fe wylia’r Arglwydd dros y da,Parha eu hetifeddiaeth;A phan fydd newyn yn y tirBydd ganddynt wir gynhaliaeth.

20 Ond fel coed tân mewn fflamau cochGelynion croch yr ArglwyddA dderfydd; cilia y rhai drwgBob un fel mwg yn ebrwydd.

21 Ni thâl yr un drygionus, ffôlYn ôl ddim a fenthyciodd;Ond am y cyfiawn, hwn a fyddYn rhoi yn rhydd o’i wirfodd.

22 Rhydd Duw ei etifeddiaeth haelI’r sawl sy’n cael ei fendith,Ond torrir ymaith y rhai casA brofodd flas ei felltith.

23-24 Cyfeiria’r Arglwydd gamau’r da,Fe’i gwylia ef yn ddyfal;Er iddo gwympo, cwyd yn rhwydd:Mae’r Arglwydd yn ei gynnal.

25 Yr holl flynyddoedd y bûm bywNi welais Dduw hyd ymaYn troi ei gefn ar unrhyw santNa pheri i’w blant gardota.

26-27 Hael a thrugarog ydyw’r da,A’i blant ef a fendithir.Tro oddi wrth ddrwg; gwna’r hyn sydd dda,A’th gartref a ddiogelir.

28-29 Oherwydd câr yr Arglwydd farn,Ni sarn ar ei ffyddloniaid;Ond torrir plant y drwg o’r tir,Difethir pechaduriaid.

30-31 Fe drig y cyfiawn yn y tirYn ddoeth a gwir ei eiriau;Mae yn ei galon ddeddf ei Dduw,A sicr yw ei gamau.

32-33 Fe wylia’r drwg y da; cais leA chyfle i’w lofruddio,Ond nid yw Duw’n ei iselhauNa chaniatáu’i gondemnio.

34 Disgwylia wrth yr Arglwydd; glŷnWrth ffordd yr Un daionus,Ac fe gei etifeddu’r tir,Ond chwelir y drygionus.

35-36 Mi welais i’r drygionus, doYn brigo fel blaguryn,Ond llwyr ddiflannodd, heb ddim sônAmdano’n fuan wedyn.

37-38 Gwêl di’r di-fai, heddychlon ŷnt,A chanddynt ddisgynyddion,Ond am y drwg, bydd Duw yn euDileu, a’u plant a’u hwyrion.

39-40 Daw oddi wrth Dduw achubiaeth lawnI’r cyfiawn mewn cyfyngder,Rhag drwg fe’u harbed am eu bodYn gosod arno’u hyder.