1-2 Paham y mae’r cenhedloeddYn derfysg oll i gyd,A’r bobloedd yn cynllwynioYn ofer ledled byd?Brenhinoedd, llywodraethwyr,Yn trefnu byddin grefYn erbyn Duw, yr Arglwydd,A’i fab eneiniog ef.
3-6 “Fe ddrylliwn ni eu rhwymauA’u rhaffau,” yw eu cri;Ond chwerthin y mae’r Arglwydd,A’u gwatwar yn eu bri.Llefara yn ei ddicter,A’u llenwi oll â braw:“Gosodais i fy mreninAr fynydd Seion draw.”
7-9 “Adroddaf,” meddai’r brenin,“Ddatganiad Duw i mi:‘Fi a’th genhedlodd heddiw.Yn wir, fy mab wyt ti,Rhof iti’n etifeddiaethY gwledydd yn ddi-lai.Fe’u drylli â gwialen haearn,A’u malu fel llestr clai.’”
10-12 Yn awr, frenhinoedd, pwyllwch,A rhowch, heb dywallt gwaed,Wasanaeth gwiw i’r Arglwydd;Cusanwch oll ei draed.Rhag iddo ffromi a’ch difa,Cans chwim yw llid Duw’r nef.Gwyn fyd y rhai sy’n gwneuthurEu lloches ynddo ef.