1-3 Clywch hyn, holl bobloedd byd,Y tlawd a’r rhai mewn moeth.Fe draethaf fi ddoethineb ddofn,Myfyrdod calon ddoeth.
4-5 Gwrandawaf gyngor Duw,Datrysaf bos i chwi.Paham yr ofnaf yn fy ingRai drwg sy’n f’erlid i?
6-7 Ffydd yr erlidwyr hyn,Ffydd yn eu cyfoeth yw;Ond ni all neb ei brynu ei hunNa thalu iawn i Dduw.
8-9 Rhy uchel ydyw prisEi fywyd, ac ni feddY modd i’w dalu, i gael bywAm byth heb weld y bedd.
10-11 Bydd farw’r doeth a’r dwl.Rhennir eu heiddo i gyd;Mewn pwt o fedd y trigant byth,Er bod â thiroedd drud.
12-14a Fe dderfydd pobl a’u rhwysgFel anifeiliaid ffôl.Â’r ynfyd a’u canlynwyr ollFel defaid i Sheol.
14b-15 Bugeilia angau hwy;Darfyddant yn Sheol;Ond fe fydd Duw’n fy mhrynu i,A’m dwyn o’r bedd yn ôl.
16-17 Na chenfigenna wrthGyfoethog yn ei dref.Pan fo yn marw, nid â â dimO’i gyfoeth gydag ef.
18-19 Er iddo foli ei ffawd,A derbyn clod di-fudd, at ei dadau, ac ni wêlByth mwy oleuni dydd.
20 Nid erys neb yn hirMewn rhodres yn y byd.Darfyddant, er eu balchder mawr,Fel anifeiliaid mud.