Salmau 118 SCN

SALM 118

Emyn o Ddiolchgarwch

1-4 Diolchwch bawb i’r Arglwydd mawr,Cans ffyddlon yw o hyd.Uned tŷ Aaron oll yn awr,Ac Israel oll i gyd,A phawb o’r rhai dros ddaear lawrA’i hofna, i ddweud ynghyd:“Mae’i ffyddlondeb ef yn para byth”.

5-8 Gwaeddais mewn ing, ac yna daethYr Arglwydd i’m rhyddhau.A Duw o’m tu, nid ofnaf waeth:Pa ddyn all fy llesgáu?A Duw o’m plaid, caf weld yn gaethY rhai sy’n fy nghasáu.Gwell rhoi ffydd yn Nuw nag yn nerth dyn.

9-12 Gwell yw gobeithio yn Nuw yn llwyrNag mewn arweinwyr ffôl.Daeth y cenhedloedd gyda’r hwyr,Ond gyrraf hwy yn ôl.Heidiant fel gwenyn o gylch cwyr,Fel tân mewn drain ar ddôl;Ond yn enw Duw gorchfygaf hwy.

13-16 Gwthiwyd fi’n galed, nes fy modAr syrthio, ond rhoes DuwGymorth i mi; fy nerth a’m clodA’m gwaredigaeth yw.Clywch gân achubiaeth heddiw’n dodO bebyll y rhai byw:“Mae deheulaw Duw yn rymus iawn”.

17-21 Nid marw ond byw a fyddaf fi.Adroddaf am ei waith.Disgyblodd Duw fi’n llym, ond niBu imi farw chwaith.Agorwch byrth y deml i mi,A rhoddaf ddiolch maithI ti, Arglwydd, am fy ngwared i.

22-24 Mae’r garreg y gwrthodwyd hiGan y penseiri i gydYn bennaf conglfaen y tŷ,A ninnau’n synnu’n fud.Hwn ydyw dydd d’amlygu diYn Arglwydd yr holl fyd;Gorfoleddwn ynddo a llawenhawn.

25-27a Erfyniwn arnat, Arglwydd, clyw,Ac achub, llwydda ni.Sanctaidd a bendigedig ywA ddaw yn d’enw di.Rhoddwn yn awr o dŷ ein DuwEi fendith arnoch chwi.Y mae’r Arglwydd, ein goleuni, yn Dduw.

27b-29 Ymunwch â’r orymdaith fawrAt gyrn yr allor wiw.Ti yw fy Nuw; diolchaf nawr;Dyrchafaf di, fy Nuw.Diolchwch bawb i’r Arglwydd mawr,Cans Duw daionus yw;Mae’i ffyddlondeb ef yn para byth.