1-4 Ynot, Arglwydd, ceisiais loches;Na foed c’wilydd arnaf fi.Achub fi yn dy gyfiawnder;Bydd yn amddiffynfa i mi.Gwared fi o law’r drygionus,O fy Nuw, fy nghraig wyt ti.
5-8 Ti, O Arglwydd, yw fy ngobaith.Pwysais arnat ti bob camO’m hieuenctid. Ti a’m tynnoddAllan gynt o groth fy mam.Gwnaethost fi’n esiampl, ond molafDi o hyd, waeth beth fy nam.
9-12 Na ad fi yn amser henaint.Mae ’ngelynion croch eu llefYn dweud, “Ciliodd Duw oddi wrtho.Nid oes neb a’i gwared ef”.Na fydd bell oddi wrthyf, Arglwydd;Cynorthwya fi o’th nef.
13-16 Gwaradwydder fy ngelynion.Molaf innau fwy a mwyDy weithredoedd grymus, Arglwydd,Er na wn eu nifer hwy –Moli i ddechrau dy gyfiawnderTuag ataf dan bob clwy.
17-18 O’m hieuenctid, ti a’m dysgaist,Ac rwy’n moli o hyd dy waith.O fy Arglwydd, paid â’m gadaelPan wy’n hen a phenwyn chwaithNes caf draethu i’r to sy’n codiAm dy ryfeddodau maith.
19-20 Hyd y nef y mae dy gryfderA’th gyfiawnder di, O Dduw.Ti, a wnaeth im weld cyfyngder,A’m bywhei o’m gofid gwyw,Ac o’r dyfroedd dan y ddaearTi a’m dygi i fyny’n fyw.
21-24 Fe gynyddi fy anrhydedd,A moliannaf innau di.O Sanct Israel, ar y delynCanaf byth dy glod a’th fri.Traethaf beunydd dy gyfiawnderA’th ffyddlondeb mawr i mi.