1 Ar lan afonydd BabilonYr eisteddasom ni,Ac wylo wrth gofio am Seion gynt,A’r deml yn ei bri.
2-3 Crogasom ein telynau arYr helyg uwch y lli.Gofynnai’n meistri, “Canwch raiO salmau’r deml i ni”.
4-5 Ond sut y medrwn ganu cânI’n Duw mewn estron le?Os â Jerwsalem o’m cof,Parlyser fy llaw dde.
6 Fy nhafod glyned yn fy ngheg,A thrawer fi yn fud,Os na rof di, Jerwsalem,Uwch popeth gorau’r byd.
7 Am boen Jerwsalem, O Dduw,Rho i Edom benyd trwm,Am iddynt ddweud, “I lawr â hiAt ei sylfeini llwm”.
8-9 A thithau, Fabilon, gwyn fydY sawl a dâl i ti,A lladd dy blant yn erbyn craigAm iti’n dryllio ni.