1-4 O bydded i’r Arglwydd dy atebYn nydd dy gyfyngder i gyd,I enw Duw Jacob d’amddiffynO’i gysegr yn Seion o hyd.Boed iddo ef gofio d’offrymauA ffafrio aberthau dy glod.Cyflawned ddymuniad dy galon,A dwyn dy gynlluniau i fod.
5-6 A bydded i ni orfoledduYn dy fuddugoliaeth a’th fri.Yn enw ein Duw codwn faner,Rhoed yntau a fynni i ti.Yn awr gwn fod Duw yn gwaredu’iEneiniog, a’i ateb o’r nef.Y mae’n ei waredu yn nerthol,Cans mae ei ddeheulaw’n un gref.
7-9 Ymffrostia rhyw rai mewn cerbydau,Ac eraill mewn meirch chwim eu tuth,Ond ninnau, ymffrostiwn yn enwYr Arglwydd ein Duw ni hyd byth.Maent hwy oll yn crynu ac yn syrthio,A ninnau yn sefyll mewn bri.O Arglwydd da, gwared y brenin,Ac ateb, pan alwn, ein cri,