1-2 Pan ddaeth Israel allanGynt o wlad yr Aifft,O blith pobl estron,Rhai â dieithr iaith,Rhoes yr Arglwydd Jwda’nGysegr iddynt hwy,A thir Israel ydoeddEu harglwyddiaeth mwy.
3-4 O weld hyn, fe gilioddTonnau’r môr, a throddYr Iorddonen hithauYn ei hôl o’i bodd.Neidiodd y mynyddoeddMegis hyrddod ffôl;Pranciodd yr holl fryniauMegis ŵyn ar ddôl.
5-6 Beth sydd arnoch, donnau’rMôr, eich bod yn ffoi?Tithau, li’r Iorddonen,Pam dy fod yn troi?Pam yr ydych, fryniau,A’r mynyddoedd mwy’nNeidio megis hyrddod,Prancio megis ŵyn?
7-8 Cryna di, O ddaear,Rhag yr Arglwydd Dduw;Cryna rhag Duw Jacob,Cans ofnadwy yw.Ef yw’r Un sy’n galluTroi y graig yn llyn,Ac o’r gallestr galedDdwyn ffynhonnau gwyn.