Salmau 106 SCN

SALM 106

Israel anniolchgar

1-3 Molwch yr Arglwydd, cans da yw; ei gariad a bery.Diolchwch iddo; ei wyrthiau ni all neb eu traethu.Mor wyn eu bydY rhai sy’n uniawn o hydAc sydd yn gyfiawn wrth farnu.

4-5 Cofia fi, Arglwydd, pan ddoi at dy bobl â’th ffafriaeth.Ymwêl â mi pan estynni dy fawr waredigaeth,A gweld a gafLwyddiant dy bobl; llawenhafPan lawenha d’etifeddiaeth.

6-8 Yr ydym ni, fel ein tadau gynt, wedi troseddu.Yn yr Aifft, gwadent dy wyrthiau a’th gariad a’th allu.Wrth y Môr Coch,Gwrthryfelasant yn groch;Ond mynnodd Duw eu gwaredu.

9-12 Sychodd y môr, ac arweiniodd hwy trwy ei ddyfnderau.Gwaredodd hwy o law’r gelyn a’u harbed rhag angau.Llyncodd y dŵrEu gwrthwynebwyr, bob gŵr.Yna credasant ei eiriau.

13-15 Buan yr aeth ei weithredoedd yn angof llwyr ganddynt.Profasant Dduw yn yr anial, pan ddaeth eu blys drostynt.Rhoes iddynt hwyBopeth a geisient, a mwy,Ond gyrrodd nychdod amdanynt.

16-18 Roedd eu cenfigen at Foses ac Aaron yn wenfflam.Caeodd y ddaear am Dathan a chwmni Abiram.Cyneuodd tân:Llosgodd ei fflamau yn lânY rhai drygionus a gwyrgam.

19-22 Yn Horeb, delw a wnaethant o lo, a’i haddoli:Newid gogoniant eu Duw am lun eidion yn pori;Anghofio Duw,A’u dygodd o’r Aifft yn fyw,A gwyrthiau mawr ei ddaioni.

23-25 Felly, dywedodd y byddai’n eu difa yn ebrwyddOni ddôi Moses i’r bwlch i droi’n ôl ei ddicllonrwydd.Mawr oedd eu brad;Cablent hyfrydwch y wlad,Heb wrando ar lais yr Arglwydd.

26-27 Fe gododd yntau ei law yn eu herbyn, a thynguY byddai’n peri eu cwymp yn yr anial, a chwaluEu plant i gydI blith cenhedloedd y byd –Trwy’r gwledydd oll eu gwasgaru.

28-31 Yna fe aethant dan iau’r duw Baal Peor, a bwytaEbyrth y meirw, a digio yr Arglwydd â’u hyfdra.Daeth arnynt bla,Nes barnodd Phinees hwy’n dda;Cofir am byth ei uniondra.

32-33 Wrth ddyfroedd Meriba hefyd, digiasant yr Arglwydd,Ac fe aeth Moses ei hun i drybini o’u herwydd,Canys fe aethChwerwder i’w enaid, a gwnaethBethau a fu iddo’n dramgwydd.

34-37 Nid ufuddhasant ychwaith a dinistrio’r paganiaid,Ond ymgymysgu â hwy, dysgu ffyrdd yr anwariaid:Plygu o flaenDelwau o goed ac o faen,Aberthu’u plant i’r demoniaid.

38-39 I dduwiau Canaan aberthent eu meibion a’u merched,Ac fe halogwyd y ddaear â gwaed y diniwed.Trwy hyn i gydAethant yn aflan eu brydAc yn buteiniaid gwargaled.

40-43 Yna cythruddodd yr Arglwydd eu Duw yn eu herbyn,A darostyngodd ei bobl dan lywodraeth eu gelyn.Droeon bu’n gefnIddynt, ond pechent drachefn,A darostyngai hwy wedyn.

44-46 Ond, wrth eu clywed yn llefain am gymorth, fe gofioddEi hen gyfamod â hwy, ac fe edifarhaodd.O’i gariad haelRhoes ei drugaredd ddi-ffaelYng nghalon pawb a’u caethiwodd.

47-48 Gwared ni, Arglwydd, a’n cynnull ni o blith y gwledydd,Inni gael diolch i’th enw, a’th foli di beunydd.Byth y bo’n benArglwydd Dduw Israel. Amen.Molwch yr Arglwydd tragywydd.