1-5 Fy Nuw, ynot ti y llochesaf,Boed iti f’amddiffyn yn lewRhag dyfod fy holl wrthwynebwyrI’m darnio a’m llarpio fel llew.O Arglwydd, os bûm yn dwyllodrus,Os brifais fy ngelyn heb raid,Boed iddo ddifetha fy einioes,A sathru f’anrhydedd i’r llaid.
6-11 Tyrd, Arglwydd, i farnu ’ngelynion,A saf yn eu herbyn mewn llid.Ymgasgled y bobl o’th amgylch,A thi uwch eu pennau i gyd.Ond barna fi’n ôl fy nghyfiawnder,Difetha ddrygioni o’r tir.Dduw cyfiawn, sy’n profi calonnau,Dyrchafa y cyfiawn a’r gwir.
12-15 Fe hoga’r drygionus ei gleddyf,Mae’n plygu ei fwa yn dynn.Darpara ei arfau angheuol,A’r tân ar ei saethau ynghyn.Cenhedlodd ddrygioni a niwed,Yn awr mae yn esgor ar dwyll.Bu’n cloddio ei bydew a’i geibio,Yn awr mae yn syrthio drwy’r rhwyll.
16-17 Daw’n ôl ar ei ben ef ei hunanY trais a gynlluniodd er gwaeth,Ac arno’i hun hefyd y disgynY cyfan o’r niwed a wnaeth.A minnau, diolchaf i’r ArglwyddAm ei holl gyfiawnder i gyd,A chanaf i enw’r GoruchafFy alaw o foliant o hyd.