Salmau 107 SCN

SALM 107

Diolched pawb i’r Arglwydd

1-3 “Diolched pawb i’r Arglwydd,Cans da a ffyddlon yw,”Yw cân pawb a waredwydTrwy law yr Arglwydd Dduw.Fe’u cipiodd o law’r gelyn,A’u cynnull i un lleO’r dwyrain a’r gorllewin,O’r gogledd ac o’r de.

8 Bydded iddynt ddiolchAm holl ffyddlondeb Duw,Ac am a wnaeth i’w bobl gaeth,Cans cariad yw.

4-7 Aeth rhai ar goll mewn drysi,Heb ffordd at le i fyw.Yr oeddent yn newynog,Ac yn sychedig, wyw.Gwaeddasant ar yr Arglwydd,A’u gwared a wnaeth ef,A’u harwain hyd ffordd unionI ddiogelwch tref.

8-9 Bydded iddynt ddiolchAm holl ffyddlondeb Duw;Eu porthi a wnaeth â mêl a llaeth,Cans cariad yw.

10-14 Roedd rhai mewn carchar tywyllAm wrthod ufuddhauI eiriau Duw, yn gaethionHeb undyn i’w rhyddhau.Gwaeddasant ar yr Arglwydd,A’u gwared a wnaeth ef,A’u dwyn hwy o’r tywyllwch,A dryllio’r gadwyn gref.

15-16 Bydded iddynt ddiolchAm holl ffyddlondeb DuwYn dryllio’r pyrth a’r heyrn drwy wyrth,Cans cariad yw.

17-20 Roedd rhai, yn sgîl eu pechod,Yn ynfyd a di-hedd;Casaent fwyd, a daethantYn agos at y bedd.Gwaeddasant ar yr Arglwydd,A’u gwared a wnaeth ef.Iachaodd hwy, a’u hachub,Drwy nerthol air y nef.

21-22 Bydded iddynt ddiolchAm holl ffyddlondeb Duw:Mynegi i’r byd ei wyrthiau i gyd,Cans cariad yw.

23-30 Aeth rhai i’r môr mewn llongau,A gwelsant Dduw y gwyntYn corddi’r don nes troellentFel meddwon ar eu hynt.Gwaeddasant ar yr Arglwydd,A’u gwared a wnaeth ef.Fe wnaeth i’r storm dawelu,A dug hwy tua thref.

31-32 Bydded iddynt ddiolchAm holl ffyddlondeb Duw,A’i foli ymhlith ei bobl byth,Cans cariad yw.

33-36 Mae’n troi ffynhonnau’n sychdirI gosbi pobl ddrwg.Mae’n troi tir sych yn ffrwythlonI rai newynog. DwgHwy yno i godi dinas;Cânt blannu a chânt hau.Bydd ef yn eu bendithioAc yn eu hamlhau.

8 Bydded iddynt ddiolchAm holl ffyddlondeb Duw,Am gnydau’r haf, am wartheg braf,Cans cariad yw.

37-42 Pan fyddant hwy dan orthrwm,Fe ddaw a thywallt gwarthAr eu gormeswyr creulon,A’u gyrru i anial barth;Ond cwyd y tlawd o’i ofid,Cynydda’i deulu i gyd.Fe lawenha yr uniawn,Ond bydd y drwg yn fud. 8 Bydded iddynt ddiolchAm holl ffyddlondeb Duw;

43 Os doeth wyt, myn roi sylw i hyn,Cans cariad yw.