1-2 Bydded Duw’n drugarogA’n bendithio o’r nef;Bydded arnom lewyrchClaer ei wyneb ef,Fel y byddo’i allu’nHysbys i’r holl fyd,Ac y prawf pob cenedlEi achubiaeth ddrud.
3 Bydded i’r holl bobloeddDy foliannu, O Dduw.Moled yr holl bobloeddDi, a’u ceidw’n fyw.
4 Bydded i’r cenhedloeddOrfoleddu i gyd;Llawenhaed y gwledydd,Cans rwyt ti o hydYn eu llywodraethu’nGyfiawn ac yn goeth.Mae cenhedloedd daearDan d’arweiniad coeth.
5 Bydded i’r holl bobloeddDy foliannu, O Dduw.Moled yr holl bobloeddDi, a’u ceidw’n fyw.
6-7 Rhoes y ddaear inniEi chynhaeaf hael.Rhoes yr Arglwydd in eiFendith yn ddi-ffael.Ac am iddo roddiInni’r fendith hon,Ofned holl derfynau’rDdaear ger ei fron. 3/5 Bydded i’r holl bobloeddDy foliannu, O Dduw.Moled yr holl bobloeddDi, a’u ceidw’n fyw.