12-15 Arglwydd, am byth gorseddwyd di;Fe godi i drugarhau;Canys fe ddaeth yr amser iDosturio wrth Seion frau.Hoff gan dy weision ei llwch hi.Pan ddeui i’w chryfhauBydd cenhedloedd byd yn crynu o’th flaen.
16-18 Fe adeilada’r Arglwydd DduwEi Seion, a daw dyddY gwelir eto’i fawredd; clywGri’r gorthrymedig prudd.Hyn oll, ysgrifenedig ywI genedlaethau a fydd.Genir eto bobl i’w foli ef.
19-22 Cans bu i’r Arglwydd drugarhau.O’r nef fe fwriodd dremAr garcharorion, a’u rhyddhauRhag angau a gormes lem,Fel bod i’w enw mawr barhauDrwy holl JerwsalemPan ddaw’r byd ynghyd i’w foli ef.
23-25 O Arglwydd Dduw, byrheaist tiFy nyddiau yn y byd.Dywedaf am fy einioes i,“Na chymer hi cyn pryd”.Cans pery dy flynyddoedd diDrwy’r cenedlaethau i gyd.Creaist ddaear; gwaith dy law yw’r nef.
26-28 Derfydd y rhain, a llwyr lesgáu,Ond nid ei di’n ddim hŷn.Treulio a wnânt fel dillad brau,Ond yr wyt ti yr un.Bydd plant dy weision yn parhauYn Seion hardd ei llun,A’u hiliogaeth dan d’amddiffyn di.